2 Chwefror 2024

 

 

 

Annwyl gyfeillion

 

Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru): Ymgynghoriad

 

Ar 13 Rhagfyr 2023, cytunodd Senedd Cymru y cawn gyflwyno cynigion ar gyfer cyfraith newydd yng Nghymru, o'r enw’r Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru).

 

Diben y Bil yw disodli deddfwriaeth iechyd meddwl sydd wedi dyddio; gwella'r modd y darperir cynlluniau iechyd meddwl ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a gwasanaethau i oedolion yng Nghymru; gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus Cymru; helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng triniaethau iechyd corfforol a thriniaethau iechyd meddwl; a helpu i leihau stigma iechyd meddwl yng Nghymru.

 

Bydd y diwygiadau a gynigir yn y Bil yn sicrhau y rhoddir mwy o rym i gleifion, a’u bod yn cael mwy o ddewis a dylanwad dros eu triniaeth, a’r urddas a'r parch y maent yn eu haeddu. Bydd y mesurau a gynigir yn y Bil hefyd yn cryfhau llais y claf.

 

Fel rhan o'r broses, mae gennyf hyd at 13 Ionawr 2025 i gyflwyno Bil sy'n bodloni'r diben hwnnw. Yna, bydd y Senedd yn craffu’n fanwl ar fy nghyfraith arfaethedig, cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud ynghylch a ddylai'r Bil ddod yn gyfraith. Pe bai'n cael ei basio, byddai'r Bil yn dod yn Ddeddf Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru).

 

Rwyf yn awr yn ymgynghori mor eang â phosibl ar fy nghynnig. Mae'r ddogfen atodedig yn rhoi rhagor o wybodaeth gefndir ac yn gofyn nifer o gwestiynau am y cynnig a sut y gellid ei ddatblygu. Rwyf am i bawb y gallai'r Bil arfaethedig hwn effeithio arnynt, a phawb sydd â barn arno neu sydd ag arbenigedd, gyfrannu. Byddaf yn ystyried yr holl ymatebion, a fydd, rwy’n gobeithio, yn helpu i lywio’r modd y byddaf yn ymdrin â drafftio'r Bil.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd rhywfaint o amser i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn a rhoi gwybod i mi beth yw eich barn chi, neu farn eich sefydliad, am y Bil arfaethedig a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni. Edrychaf ymlaen at gael unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud erbyn 22 Mawrth 2024.

 

Diolch i chi am roi o'ch amser.

 

Yn gywir 

 

 

James Evans AS

Aelod o Senedd Cymru dros Frycheiniog a Sir Faesyfed